jump to content

Tystiolaeth Effeithiol

 

‘Beth sy’n cyfrif fel dealltwriaeth, a dealltwriaeth pwy sy’n cyfrif?’

Hodgson a Canvin, 2005

 

Beth ydyn ni'n ei olygu gan dystiolaeth effeithiol?

Mae yna hen ddadl ym maes iechyd a gofal cymdeithasol ynghylch sut mae diffinio ‘tystiolaeth’, a dealltwriaeth neu dystiolaeth pwy sy’n cyfrif. At ddiben y Canllaw Adnoddau hwn, rydyn ni’n defnyddio’r diffiniad canlynol o dystiolaeth effeithiol, a ddatblygwyd mewn trafodaethau gyda staff awdurdodau lleol yng Nghymru.

Tystiolaeth effeithiol: diffiniad consensws

Mae tystiolaeth effeithiol yn helpu i ddatblygu dealltwriaeth o ffenomen ac yn ateb cwestiynau. Mae’n gyd-destunol, yn berthnasol ac yn amserol, ac yn defnyddio gwahanol ffynonellau gwybodaeth (e.e. ymchwil, profiad byw, dealltwriaeth yr ymarferydd a dealltwriaeth sefydliadol). Mae tystiolaeth effeithiol yn hygyrch, ac mae modd i bob unigolyn perthnasol ymgysylltu â hi. Mae’n ddefnyddiol ac yn gallu arwain at welliant, ond mae hefyd yn agored (tryloyw) am ei chyfyngiadau.

Defnyddio dull system gyfan

Mae Sandra Nutley a’i chydweithwyr yn yr Uned Ymchwil ar gyfer Defnyddio Ymchwil, Prifysgol St Andrews, sy’n dîm o academyddion uchel eu parch sydd wedi cyhoeddi gwaith eang ar ‘beth sy’n gweithio’ a defnydd o dystiolaeth mewn arfer, yn awgrymu bod hyn yn dasg gymhleth. Mae angen defnyddio dull system gyfan wrth ddefnyddio tystiolaeth, sy’n casglu ac yn cymhwyso tystiolaeth ar draws tair agwedd ar unrhyw sefydliad dan sylw:

Ymarferwyr: bod â thystiolaeth ymgysylltiol y mae modd ei chymhwyso i arfer.

  • Gwreiddio systemau: ymchwilio i dystiolaeth er mwyn cynllunio systemau sefydliadol, prosesau ac amgylcheddau mewn ffyrdd sy’n caniatáu i ymarferwyr ddefnyddio a chymhwyso’r dystiolaeth maen nhw’n ymwneud â hi.
  • Diwylliant sefydliadol:bod ag amgylcheddau dysgu da mewn sefydliadau, sy’n gwneud i ymarferwyr deimlo wedi’u gwerthfawrogi, yn ddiogel, a’u bod yn gallu arbrofi a rhoi cynnig ar bethau.

Mae gan y Rhaglen Datblygu Ymarfer sydd wedi’i Gyfoethogi gan Dystiolaeth (DEEP), a ddatblygwyd yng Nghymru, ystod o declynnau a dulliau i gefnogi dull system gyfan wrth gynhyrchu a defnyddio tystiolaeth. I ddysgu mwy, ewch i wefan DEEP. 

​Mae defnyddio tystiolaeth i lywio ymarfer y tu hwnt i gwmpas yr adnodd ar-lein hwn, ond dyma rai mannau cychwyn i’w hystyried:

Canllaw Cymuned Chwilfrydig. IRISS.

Mae hwn yn darparu arweiniad ymarferol cam wrth gam ar ddefnyddio dull cymuned chwilfrydig.

Isod mae astudiaethau achos o wella perfformiad ar sail tystiolaeth.

Sut gall gweithwyr proffesiynol a gofalwyr sy’n rhan o oruchwylio cyswllt uniongyrchol rhwng plant sy’n derbyn gofal a’u teuluoedd biolegol gyflawni’r ffordd orau bosib o wella cyswllt.

Aeth yr astudiaeth hon i’r afael â’r mater o sut mae gwella cyswllt rhwng plant sy’n derbyn gofal a’u rhieni biolegol. Roedd naw person (saith gweithiwr cymdeithasol a goruchwyliwr cyswllt, ynghyd â dau ofalwr maeth mewn un lleoliad gwasanaethau cymdeithasol dinesig) yn rhan o’r astudiaeth, a dadansoddwyd yr ymchwil oedd ar gael gan ddefnyddio grwpiau myfyrio ynghyd â dadansoddiad yr ymchwilwyr. Nod y cyfweliadau a’r ymchwil oedd nodi beth oedd y themâu a’r materion cyffredin. Dechreuwyd â phroses linol gonfensiynol, ond datblygodd hyn yn naratif ansoddol gan ganolbwyntio’n sylweddol ar fyfyrio ac ail-greu profiadau’r cyfranogwyr. Canlyniad y prosiect oedd bod angen model asesu cyswllt sy’n canolbwyntio’n fwy ar ymlyniad, a allai adlewyrchu’r naratif ar gyfer plant sy’n derbyn gofal, a byddai’n gam tuag at wella’r canlyniadau iddyn nhw.

SAE 2017/18

Adnewyddu Gofal Seibiant - casglu a defnyddio mathau amrywiol o dystiolaeth mewn adolygiad ar ofal seibiant.

Ar ddechrau 2019, penderfynodd Partneriaeth Gofal Gorllewin Cymru[2] gynnal adolygiad o wasanaethau gofal seibiant ar draws y rhanbarth. Gan weithio gydag Ysgol Ymchwil Gofal Cymdeithasol Cymru ym Mhrifysgol Abertawe, dechreuon nhw drwy archwilio tystiolaeth ymchwil a thystiolaeth sefydliadol am ofal seibiant o rannau eraill o wledydd Prydain, ac yna defnyddion nhw hyn fel sbardun i gasglu dealltwriaeth gyd-destunol leol gan ofalwyr, ymarferwyr a’r bobl maen nhw’n eu cefnogi. Cyflawnwyd hyn drwy drafodaethau Siarad Archwiliadol[3] yn y tair sir. Recordiwyd sain y trafodaethau hyn, cyn eu trawsgrifio a’u dadansoddi ar gyfer themâu allweddol. Yna, rhannwyd y themâu hyn a llawer o’r straeon a’r dyfyniadau cysylltiedig mewn digwyddiad rhanbarthol oedd yn cynnwys ymchwilydd, uwch reolwyr, ymarferwyr, gofalwyr, a’r bobl maen nhw’n eu cefnogi. Roedd cyfranogwyr yn y digwyddiad hwn yn cydweithio i nodi cyfres o egwyddorion a blaenoriaethau i’w datblygu, a fyddai’n cael eu hymgorffori yn yr adroddiad Adnewyddu Gofal Seibiant a’r argymhellion cysylltiedig. Cafodd y prif themâu a godwyd yn ystod y dydd hefyd eu plethu’n rhan o gerdd a gafodd ei rhannu ar ddiwedd y digwyddiad. Roedd y gerdd hon yn cefnogi cysylltiad rhwng y pen a’r galon yn yr hyn sydd bwysicaf. Mae aelodau o’r Bartneriaeth wrthi’n datblygu rhai o’r themâu hyn, gan gynnwys archwilio sut mae modd i wasanaethau lletygarwch lleol gyfrannu at ddarparu seibiant byr i ofalwyr. Mae eu dull sgyrsiol o archwilio a defnyddio mathau amrywiol o dystiolaeth wedi arwain at feithrin cydberthynas ac ymddiriedaeth rhwng gofalwyr, ymarferwyr a rheolwyr.